24 Hydref – Hyforddiant QGIS

Mae ymgynghoriaeth Geospatial Geo Smart Decisions yn cynnig hyfforddiant un dydd yn QGIS sydd wedi ei leoli yn yr Hyb Coedwigaeth, Machynlleth. Pwrpas y diwrnod o hyfforddiant yw cyflwyno Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) i ddefnyddwyr newydd, mewn trefniant grŵp bach gyda dau hyfforddwr, a hynny fel bod y cyfranogwyr yn gadael yn teimlo yn llawer mwy hyderus ynglŷn â’u gwybodaeth o’r offer am ddim sydd ar gael iddynt a sut i’w ddefnyddio yn eu trefniant eu hunain.

Pryd: Dydd Mawrth 24ain Hydref

Ble: Hyb Coedwigaeth, Uned 6, Machynlleth, SY20 8AX

Amseroedd: 9.30 – 4pm

Cinio: Darperir (gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw anghenion dietegol)

Bydd y gweithdy yn darparu cyfranogwyr yn y sector preifat a sefydliadau coetir dielw gyda’r sgiliau sydd eu hangen i chwilio am y data gofodol sydd ar gael, ac i’w ddefnyddio o fewn y feddalwedd GIS sydd ar gael i bawb a elwir yn QGIS. Yn ogystal, fe’i defnyddir i ddadansoddi yn syml gan ddefnyddio offer prosesu geo, i archwilio’r gwahanol ffyrdd o edrych ar y data ac i ddefnyddio’r rhain fel mapiau i’w defnyddio mewn lleoedd eraill neu eu gyrru i gyd-weithwyr. Bydd amser yn cael ei roi i’r cyfranogwyr archwilio’r offer a’r data sydd ar gael ar eu liwt eu hunain gyda’r hyfforddwyr yn cyfeirio, yn gosod heriau ac yn creu cyfleoedd dysgu ar hyd y ffordd.

Rhagwelir i’r gweithdy hwn fod yn boblogaidd iawn ac fe’ch cynghorir i gofrestru eich diddordeb cyn gynted ag sy’n bosib. Bydd rhestr aros yn cael ei chreu unwaith bydd y cwrs yn llawn a bydd diwrnod ychwanegol yn cael ei drefnu cyn diwedd y flwyddyn os bydd digon o ddiddordeb.

cliciwch yma am poster QGIS POSTER BILINGUAL

 

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *