Hafan

Croeso i’r Hyb Coedwigaeth – Diolch am ddod o hyd i ni – nawr gallwn ddweud ychydig am yr hyn mae’r Hyb Coedwigaeth yn ei wneud a beth allech chi ddod o hyd iddo yma.

Ble mae’r Hyb? – Adeilad modern wedi’i adeiladu o bren yn bennaf yw’r Hyb Coedwigaeth. Llywodraeth Cymru sy’n berchen arno ac mae wedi’i leoli ym Mharc Eco Dyfi ym Machynlleth. Mae’n cynnig lle hyblyg y gellir ei ddefnyddio fel swyddfeydd neu ar gyfer cyfarfodydd ar gyfer nifer o ddefnyddwyr,  a hynny dros gyfnod hir neu ar gyfer digwyddiadau neu gyfarfodydd unigol. Mae’r adeilad ei hun gerllaw’r orsaf drenau ym Machynlleth – felly mae’n hawdd ei gyrraedd ar y trên, ac mae ganddo gyfleusterau parcio y mae’n eu rhannu.

Pam Hyb Coedwigaeth? Mae Cymru’n un o’r ychydig wledydd yn y byd sydd ag egwyddor gynaliadwyedd wedi’i hymgorffori yn ei deddfwriaeth. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar amrywiaeth eang o gyrff sector cyhoeddus i ddatgan sut y maent yn rhoi’r egwyddorion hynny ar waith. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod coetiroedd a choedwigoedd yn chwarae rhan hollbwysig mewn dyfodol cynaliadwy – ar gyfer yr amgylchedd, yr economi wledig, a dinasyddion a chymunedau ym mhob cwr o’r wlad. Mae’r Hyb Coedwigaeth yn ffordd ymarferol o wneud hyn – mae’n dwyn ynghyd amrywiaeth o sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd coedwigaeth, yr amgylchedd a’r gymuned mewn un lleoliad. Mae hynny’n cynnig cyfleoedd iddynt rannu syniadau a sgiliau, ac i gydweithio.

Cefnogir yr Hyb Coedwigaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r broses o roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith yn ymarferol. Y sefydliadau sy’n ei ddefnyddio sy’n ei redeg o ddydd i ddydd.

Gweledigaeth gyffredin – Rydym yn rhannu’r un weledigaeth, sef fod yr hyb yn dod yn bwynt a lleoliad – go iawn a rhithwir – sy’n gweithredu fel ‘cyswllt cyntaf’ ar gyfer arweiniad a gwybodaeth ar ddefnyddio coetiroedd. Os na fyddwn yn gwybod ein hunain, byddwn yn gwybod am rywun sydd yn gwybod!

Mae cyfres o wahanol ddigwyddiadau, cyfarfodydd a gweithdai – ar gyfer y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector – eisoes wedi cael eu cynnal gan sefydliadau a grwpiau. Felly, manteisiwch ar y cyfle i gysylltu â ni i weld a allwch ymuno â nhw neu gynnal eich gweithdy eich hun.

Cliciwch ar y dolenni uchod i ddysgu mwy am y sefydliadau sy’n defnyddio’r Hyb Coedwigaeth.