Ysgrifennu cynigion prosiect – 8 Rhagfyr

Ysgrifennu cynigion prosiect – Ceisiadau grant effeithiol a llwyddiannus

 8 Rhagfyr 10:30 – 3:30am

Gweithdy un dydd am ddim yn Hyb Goedwigaeth Machynlleth, yn ymdrin ag ysgrifennu cynigion i geisiadau grant.

Beth mae cyllidwyr yn chwilio amdano? Sut allwch chi strwythuro eich prosiect fel ei fod yn cyflawni’r meini prawf llwyddiannus!

 Bydd cyflwyniadau ar sut i ysgrifennu cynigion prosiect, gwybodaeth gan gyllidwyr, a sesiynau gweithdy â’r cyfle i gael adborth ar geisiadau unigol. Dyma gyfle gwerthfawr i sicrhau y gallwch ysgrifennu cynigion yn effeithiol a chynyddu eich gobaith o lwyddo!

Darperir cinio a lluniaeth.

 Yr Hyb Goedwigaeth, Uned 6 Parc Eco Dyfi, MACHYNLLETH, SY20 8AX

Maria Wilding, maria.wilding@llaisygoedwig.org.uk 07981138620

Cliciwh yma am poster

24 Hydref – Hyforddiant QGIS

Mae ymgynghoriaeth Geospatial Geo Smart Decisions yn cynnig hyfforddiant un dydd yn QGIS sydd wedi ei leoli yn yr Hyb Coedwigaeth, Machynlleth. Pwrpas y diwrnod o hyfforddiant yw cyflwyno Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) i ddefnyddwyr newydd, mewn trefniant grŵp bach gyda dau hyfforddwr, a hynny fel bod y cyfranogwyr yn gadael yn teimlo yn llawer mwy hyderus ynglŷn â’u gwybodaeth o’r offer am ddim sydd ar gael iddynt a sut i’w ddefnyddio yn eu trefniant eu hunain.

Pryd: Dydd Mawrth 24ain Hydref

Ble: Hyb Coedwigaeth, Uned 6, Machynlleth, SY20 8AX

Amseroedd: 9.30 – 4pm

Cinio: Darperir (gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw anghenion dietegol)

Bydd y gweithdy yn darparu cyfranogwyr yn y sector preifat a sefydliadau coetir dielw gyda’r sgiliau sydd eu hangen i chwilio am y data gofodol sydd ar gael, ac i’w ddefnyddio o fewn y feddalwedd GIS sydd ar gael i bawb a elwir yn QGIS. Yn ogystal, fe’i defnyddir i ddadansoddi yn syml gan ddefnyddio offer prosesu geo, i archwilio’r gwahanol ffyrdd o edrych ar y data ac i ddefnyddio’r rhain fel mapiau i’w defnyddio mewn lleoedd eraill neu eu gyrru i gyd-weithwyr. Bydd amser yn cael ei roi i’r cyfranogwyr archwilio’r offer a’r data sydd ar gael ar eu liwt eu hunain gyda’r hyfforddwyr yn cyfeirio, yn gosod heriau ac yn creu cyfleoedd dysgu ar hyd y ffordd.

Rhagwelir i’r gweithdy hwn fod yn boblogaidd iawn ac fe’ch cynghorir i gofrestru eich diddordeb cyn gynted ag sy’n bosib. Bydd rhestr aros yn cael ei chreu unwaith bydd y cwrs yn llawn a bydd diwrnod ychwanegol yn cael ei drefnu cyn diwedd y flwyddyn os bydd digon o ddiddordeb.

cliciwch yma am poster QGIS POSTER BILINGUAL

 

 

18 Awst, 6 Hydref, 24 Tachwedd – Sgiliau coetir ar gyfer gweithio mewn grwpiaud

Rhannu Sgiliau – 18 Awst – Dewch i rannu a dysgu amrywiaeth o weithgareddau coetir i’w defnyddio gyda grwpiau o blant ac oedolion; o gemau syml i sgiliau byw yn y gwyllt i ryseitiau tân gwersyll a llawer iawn mwy!

6 Hydref – Cynnau Tân a Chwilota am Fwyd gyda Kirsten Manley – Dysgwch sut i archwilio amgylchfydoedd coetir ar gyfer bwyd gwyllt bwytadwy a sut i ychwanegu’r cynhwysion blasus hyn i rhysietiau aelwyd syml

24 Tachwedd – Sgiliau Cadwraeth gyda Kirsten Manley – Dysgwch am reolaeth coetir cynaliadwy a sut allwch gyfrannu at hyn yn o fewn ystod o gynlluniau rheoli coetir goefellir am ystod o dechnegau rheoli

Cynhelir yr holl ddigwyddiadau mewn lleoliad coetir yn yr awyr agored (ceir man dan orchudd ar gyfer adegau o dywydd gwlyb a thoiled compost ar y safle).

Gwisgwch yn briodol a dewch â chinio, os gwelwch yn dda. Darperir te a choffi.

I archebu lle AM DDIM yn unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, cysylltwch â:  jocooper@smallwoods.co.uk 01654700061 ext 25

 Lleoliad: Cynhelir yr holl weithgareddau yng Nghoed Gwern, Pantperthog, Machynlleth (NID yn swyddfeydd yr hyb). Cewch fanylion sut i gyrraedd wedi ichi archebu.

cliciwch yma am poster

 

19 Gorffennaf – Gallwn wneud hyn weithio. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chi

19 Gorfennaf – Gallwn wneud hyn weithio.  Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chi

Sut mae eich grŵp neu sefydliad yn cyfrannu at y saith amcan llesiant? Sut allwch ddangos hyn i’r bobl sy’n cyfrif?

Gweithdy undydd am ddim yn yr Hyb Coedwigaeth ym Machynlleth, yn edrych ar beth yr ydych yn ei wneud a’i berthnasedd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gyda chyflwynwyr o’r WCVA, enghreifftiau o gydweithrediadau llwyddiannus, a sesiynau gweithdy, mae hyn yn gyfle gwerthfawr i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cinio a lluniaeth yn gynwysedig.

19 Gorffenaf 10:30am – 3:30pm

Yr Hyb Coedwigaeth, Uned 6 Dyfi Eco Parc, Machynlleth, SY20 8AX

Kirsten Manley kirst.manley@gmail.com neu 01654 700061

Cliciwch i lawrlwytho’r posteri isod  – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chi

6 Gorffennaf – Ystyried effaith coetiroedd ar iechyd a llesiant pobl

6 Gorffennaf – Ystyried effaith coetiroedd ar iechyd a llesiant pobl

 Ymunwch â ni yn yr Hyb Coedwigaeth am ddiwrnod:

  • Dulliau adolygu i fonitro eich prosiect iechyd a llesiant
  • Edrych ar ddulliau o ddeall y newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio coetiroedd

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim sy’n dechrau am 10am ac yn gorffen am 3pm – darperir cinio.  Cysylltwch â jocooper@smallwoods.org.uk am ragor o wybodaeth ac i gofrestru.

Cliciwch i lawrlwytho’r posteri isod. Ystyried effaith coetiroedd ar iechyd a llesiant pobl